Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (269) |
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1–8, 11 a 13-14. Cafodd cwestiynau 3 a 7 eu grwpio. Tynnwyd cwestiynau 9, 10 a 12 yn ôl. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Dechreuodd yr eitem am 14.12
Gofynnwyd cwestiynau 1–7, a 10-13. Tynnwyd cwestiynau 8 a 9 yn ôl. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Dadl Frys
Dechreuodd yr eitem am 14.51
Canfyddiadau’r ymchwiliad i ofal cleifion ar ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.
4 Dadl Cyfnod 1 ar y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 16.18
NDM5772 Kirsty Williams (Brycheiniog a Maesyfed)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Lefelau Diogel Staff
Nyrsio (Cymru)
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 17.02
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5773 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) diffinio ei strategaeth i gynyddu mewnfuddsoddiad i Gymru dros y pum mlynedd nesaf; a
b) cydweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn lleoliad cystadleuol a deniadol ar gyfer mewnfuddsoddi.
2. Yn cydnabod
bod gostyngiad Llywodraeth y DU yn y dreth gorfforaeth wedi gwneud
Cymru a'r DU ymhlith y mannau mwyaf deniadol i fuddsoddi
ynddynt.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
30 |
40 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi'r feirniadaeth ynghylch strategaeth mewnfuddsoddi Llywodraeth Cymru yn adroddiad Prifysgol Caerdydd 'Selling Wales: The Role of Agencies in Attracting Inward Investment'.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
21 |
41 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lwydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:
'datblygu cysylltiadau trawsffiniol effeithiol i gynyddu buddsoddiad o'r tu allan yn ogystal â gwella potensial allforio Cymru.'
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
0 |
40 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:
sicrhau bod gwaith holl adrannau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â gwerthu Cymru dramor yn cael ei gydlynu a sicrhau bod y neges yn gyson.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
0 |
39 |
Derbyniwyd Gwelliant 3.
Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 2:
ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y
DU er mwyn caniatáu i Lywodraeth Cymru osod cyfradd y dreth
gorfforaeth yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
30 |
0 |
40 |
Derbyniwyd Gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5773 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) diffinio ei strategaeth i gynyddu mewnfuddsoddiad i Gymru dros y pum mlynedd nesaf;
b) cydweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn lleoliad cystadleuol a deniadol ar gyfer mewnfuddsoddi;
c) datblygu cysylltiadau trawsffiniol effeithiol i gynyddu buddsoddiad o'r tu allan yn ogystal â gwella potensial allforio Cymru; a
d) sicrhau bod gwaith holl adrannau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â gwerthu Cymru dramor yn cael ei gydlynu a sicrhau bod y neges yn gyson.
2. Yn cydnabod
bod gostyngiad Llywodraeth y DU yn y dreth gorfforaeth wedi gwneud
Cymru a'r DU ymhlith y mannau mwyaf deniadol i fuddsoddi ynddynt ac
yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU
er mwyn caniatáu i Lywodraeth Cymru osod cyfradd y dreth
gorfforaeth yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
10 |
20 |
39 |
Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
6 Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Dechreuodd yr eitem am 18.00
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5770 Aled Roberts (Gogledd Cymru):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn gwrthwynebu'n
gryf unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i ddiddymu Deddf Hawliau
Dynol 1998, a fyddai'n tanseilio setliad datganoli Cymru ac yn gam
yn ôl o ran hyrwyddo a diogelu hawliau dynol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
15 |
39 |
Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
7 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.55
8 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.58
NDM5771 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
Môn Mam Cymru: ychwanegu gwerth at y diwydiant bwyd
Daeth y cyfarfod i ben am 19.19
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 9 Mehefin 2015